Ysgol Gynradd Pontsenni
Sennybridge C. P. School
Gŵyl Criced a Thenis - Mehefin 2024 (Blwyddyn 5)
Year 5 Cricket and Tenis Festival at Brecon High School June 2024
Fe wnaeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 5 ymuno gyda llawer o ddisgyblion eraill o Ysgolion Aberhonddu mewn diwrnod o sgiliau a gemau criced a thenis ar Gaeau Chwarae Penlan. Trefnwyd y diwrnod gan Nicola a Lucy a’r Tim o Chwaraeon Powys a chefnogwyd gan ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Cafwyd diwrnod i’r brenin lan ar Gaeau Penlan.
Twrnamaint Pel -rwyd Yr Urdd 2024 Netball Tournament
Canolfan Hamdden Aberhonddu / Brecon Leisure Centre
Cystadlaethau Pel- droed Yr Urdd Football Competitions Hydref / October 2024
Tim Blynyddoedd / Years 3 a 4 Team
Tim Blynyddoedd / Years 5 a 6 Team
Twrnamaint Pel rwyd Yr Urdd 2023 Netball Tournament
Danfonwn ein llongyfarchiadau mwyaf at y merched yn Nhîm Pêl Rwyd Bl 5 a 6 yr ysgol a wnaeth cymryd rhan yn Nhwrnamaint Pêl- rwyd yr Urdd. Chwaraeodd y merched yn arbennig o dda fel tîm gan ddangos dyfalbarhad i chwarae y erbyn timau cryf eraill. Diolch i Mrs Wilbur a Miss Chambers am eu cefnogaeth ac wrth gwrs i’r rhieni am helpu gyda thrafnidiaeth.
We send our congratulations to the Year 5 and 6 Netball Team who took part in the Urdd Netball Tournament. The girls played extremely well as a team showing perseverance to play against other strong teams. Thanks to Mrs Wilbur and Miss Chambers for their support and of course to the parents for helping with transport.
Cynhaliwyd Twrnament Pêl droed Yr Urdd ar Gae Astro Ysgol Uwchradd Aberhonddu ar Ebrill 22ain. Mae rhaid canmol pob un o’r chwaraewyr ar eu perfformiadau, dyfalbarhad, eu brwdrydedd a’r anogaeth dangosodd pob un ohonynt i gefnogi ei gilydd o fewn y tîm. Fe wnaeth pob un o’r tîm cytuno fe gawson nhw gyd diwrnod llawn hwyl yn ymuno yn y cystadleuaeth. Dyma beth sy’n holl bwysig, sef cael y cyfle i ymuno a chael mwynhad wrth chwarae fel tîm. Da iawn plant Pontsenni! Diolch yn fawr i Mr Price a Miss Chambers am eu cefnogaeth ac wrth gwrs i’r rhieni am helpu gyda thrafnidiaeth. Diolch hefyd i Rhiannon Elen Thomas Swyddog Cymunedol Urdd Gobaith Cymru Brycheiniog a Maesyfed am drefnu’r gystadleuaeth ac am ddarparu cyfleoedd gwych fel hyn i’r plant.
Da iawn wir i’r merched ag aeth i Ysgol Uwchradd Crughywel i gymryd rhan yn Yr Wyl Pêl-droed Disney Playmakers. Fe gafodd y merched ddiwrnod i’w gofio wrth ddatblygu eu sgiliau chwarae pêl-droed a diolch yn fawr i Mrs Richards, Mrs Moore, Mrs Lewis a Mrs Davies am helpu ar y dydd.
Da Iawn / Well done... to all of our Disney Playmaker’s Football Stars, for taking part in their skills event this morning in Crickhowell High School. Thank you to Mrs Richards, Mrs Moore, Mrs Lewis & Mrs Davies for helping out today and also for transporting the girls to the event. All have thoroughly enjoyed. Da Iawn
Aeth rhai o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yn ddiweddar i gymryd rhan yn Nhwrnament Rygbi Tag Yr Urdd. Chwaraeodd Tîm Pontsenni yn erbyn Ysgol Gymraeg Dyffryn Y Glowyr A ac Ysgol Gymraeg Dyffryn Y Glowyr B, Ysgol Llanfaes ac Ysgol Llanfair Ym Muallt.
Da iawn wir chwaraewyr yn y tîm ar eu perfformiadau. Cafwyd diwrnod i’r brenin lawr yn Ystalyfera a diolch i’r Urdd am drefnu’r digwyddiad yma. Yr oedolion ac aeth gyda’r disgyblion oedd Ms Angharad Auld a Mr C. W. Price.